Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

PAC(5)-27-17 23 Hydref 2017

Ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Y cefndir

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yng Nghymru, mae Tîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn casglu barn a phrofiadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru drwy grwpiau ffocws. Mynychodd rhai o Aelodau’r Pwyllgor rai o’r sesiynau hyn.

Roedd y cyfranogwyr yn gymysgedd o bobl ifanc a ganfuwyd drwy gysylltiadau a ddatblygwyd gan y Cynulliad a phobl ifanc a ddarparwyd gan grwpiau’r trydydd sector. Roedd y bobl ifanc yn dod o amrywiaeth o gyrff cynrychiadol, gan gynnwys sefydliadau fel Voices from Care a Gweithredu dros Blant, a buom hefyd yn siarad â phobl ifanc drwy dimau Gwasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal yr awdurdodau lleol. Defnyddiwyd cysylltiadau a ddatblygwyd gan y tîm Cyfathrebu dros gyfnod hefyd.

Cynhaliwyd saith sesiwn mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru (sef yn Ynys Môn, Conwy, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Rhondda Cynon Taf) gyda phobl ifanc rhwng 6 a 25 mlwydd oed o bron pob awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd mewn gofal ar hyn o bryd yn ogystal â phobl ifanc sydd wedi gadael y system gofal yn ddiweddar. Cefnogwyd y bobl ifanc gan eu gweithwyr cymdeithasol mewn rhai o’r sesiynau, a chan ofalwr maeth, a rhoddodd y bobl hyn eu barn hefyd. Bu cyfanswm o 30 o blant a phobl ifanc yn bresennol yn y sesiynau.

 

 

 

 

Trefn

Gofynnwyd y cwestiynau canlynol i’r cyfranogwyr fel rhan o’r sesiynau grŵp ffocws:

-      Beth yw’r gwahanol faterion yr ydych wedi eu hwynebu yn blentyn neu’n berson ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Gall hyn gynnwys profiadau da a phrofiadau gwael.

-      Pa gefnogaeth a gewch chi fel plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal?

-      A oes unrhyw heriau wrth geisio cael y cymorth sydd ei angen arnoch?

-      Pe gallech chi newid un peth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, beth fyddai’r newid hwnnw?

 

Crynodeb o themâu a chyfraniadau allweddol

 Themâu allweddol: materion a brofir gan blant a phobl ifanc mewn gofal

 1  .     Diffyg cysondeb

 "Rwyf wedi cael 14 o leoliadau gwahanol mewn blwyddyn."

Amlygodd mwyafrif y cyfranogwyr natur aflonyddgar nifer y lleoliadau a nifer y gweithwyr cymdeithasol a brofwyd ganddynt. Teimlai llawer eu bod wedi cael eu symud yn amlach nag yr hoffent, ac roeddent wedi gweld trosiant uchel o ran gweithwyr cymdeithasol. Codwyd ansawdd gweithwyr cymdeithasol hefyd fel anghysondeb. Soniodd un cyfranogwr am “addewidion wedi’u torri " wrth drefnu i gyfarfod â’u gweithiwr cymdeithasol neu gyfathrebu ag ef, a soniodd un arall bod eu gweithiwr cymdeithasol “yn ymddangos nad oedd yn hidio". O’r trafodaethau grŵp, mae’n amlwg bod llawer yn teimlo eu bod yn cael eu gweld fel achos mewn ffeil yn unig gan eu gweithiwr / gweithwyr cymdeithasol a bod hyn, ynghyd â’r amhariad o ran symud i leoliadau newydd yn aml, a throsiant y gweithwyr cymdeithasol, yn niweidiol ar gyfer meithrin ymddiriedaeth yn y rhai sy’n eu cefnogi.

 

 

 

2.     Diffyg dealltwriaeth

 "Cael fy nghamddeall a’m siomi "

Cododd pob grŵp y mater o beidio â theimlo fel bod eu gweithiwr / wraig cymdeithasol yn gwrando arnynt, a’r gofalw(y)r maeth yr un modd mewn rhai achosion. Roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi codi materion nad oeddent wedi’u cymryd o ddifrif neu a oedd heb gael clust i wrando arnynt o gwbl. Roedd hyn weithiau’n gysylltiedig â pheidio â chael digon o annibyniaeth yn y cartref, neu beidio â theimlo’n gyfforddus â’r lleoliadau a gynigiwyd iddynt. Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael cam o ran y rhai a oedd i fod i’w cefnogi, ac yn teimlo nad oedd dim ymddiriedaeth ynddynt. Dywedodd nifer o gyfranogwyr hefyd eu bod wedi cael eu gwneud i deimlo nad oeddent yn haeddu’r gefnogaeth yr oeddent yn gofyn amdani. Mewn un achos eithafol, dywedodd person ifanc ei bod wedi cymryd y cam o geisio cymryd ei fywyd ei hun hyd yn oed i geisio cael rhywun i wrando arnynt.

Siaradodd llawer o gyfranogwyr hefyd am gael eu camddeall gan weithwyr cymdeithasol neu ofalwyr maeth newydd, a oedd yn deillio o’r nodiadau a gynhwyswyd yn eu ffeiliau achos, yn eu barn hwy. Roedd rhai o’r cyfranogwyr yn cwyno nad oeddent wedi cael mynediad at eu ffeiliau achos, ac nid yn unig oeddent yn ansicr o’r hyn a gofnodwyd, ond hefyd roeddent yn anfodlon nad oeddent yn gallu rhoi eu gwybodaeth eu hunain am leoliadau neu sefyllfaoedd blaenorol.

3.     Diffyg gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael

 "Mae peidio â gwybod bod y gefnogaeth yna yn her fawr "

Pan ofynnwyd iddynt am y gefnogaeth a gânt, siaradodd mwyafrif y cyfranogwyr yn gadarnhaol am sefydliadau’r trydydd sector sy’n eu cefnogi, a hynny gan ddarparu cefnogaeth sydd mawr ei hangen arnynt. Fodd bynnag, roedd cael gwybod am y gefnogaeth hon yn anodd. Dywedodd llawer eu bod wedi bod yn ffodus i daro ar y gefnogaeth a gynigir gan y sefydliadau hyn. Dywedodd un cyfranogwr "mae angen i chi wybod amdano i gael rhywbeth allan ohono ". Soniodd gofalwr maeth eu bod hwythau hefyd yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wybodaeth yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ar ran eu plentyn maeth, ac mai hwy eu hunain a oedd wedi gwneud yr holl ymdrech i ddod o hyd i’r gefnogaeth briodol.

 

 4.     Trosglwyddo o ofal

 "Mae bwlch enfawr o ofal i adael gofal, a byw’n annibynnol "

Cynigiodd nifer o bobl sy’n gadael gofal a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws gipolwg ar y trosglwyddo o ofal yn 18 mlwydd oed. Pwysleisiodd y mwyafrif yr heriau a wynebwyd yn ystod y cyfnod trosglwyddo hwn, ac wrth geisio byw’n annibynnol. Er bod y rhaglen ‘Ar ôl Gofal’ yn darparu rhywfaint o gymorth, teimlai’r mwyafrif bod y gefnogaeth yn rhy anaml ac anghyson. Codwyd yn arbennig yr anghysondeb yn y gefnogaeth a ddarperir gan Gynghorwyr Personol. Roedd nifer fawr o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn y grwpiau wedi cael anawsterau ariannol, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o filiau cartref a chynlluniau budd-daliadau. Roedd llawer yn teimlo eu bod wedi "wedi cael eu hanghofio" pan oeddent yn troi’n 18 mlwydd oed, ac nad oeddent wedi bod yn barod ar gyfer trosglwyddo a gadael gofal.

5.     Cyfleoedd

 "Gyda Voices from Care, cefais y cyfle i fynd i Fwlgaria. Aethom yno i weithio gyda phlant Roma. Fe wnaethon ni godi arian i fynd, a mwynhau yn fawr, ac fe wnaethom ni sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni i fyw yng Nghymru."

Er bod y cyfranogwyr wedi rhoi sylw i rai o’r profiadau negyddol yr oeddent wedi’u cael, roedd llawer hefyd yn siarad am y cyfleoedd a roddwyd iddynt. Soniodd nifer o gyfranogwyr am gyfleoedd i fynd ar deithiau, i weithio ar brosiectau a threulio amser gyda phobl ifanc eraill mewn gofal, yr oeddent yn teimlo ei fod wedi’u helpu i ennill hyder. Cynigiwyd y cyfleoedd hyn yn bennaf drwy grwpiau’r trydydd sector.

 

 

 

 

 

 

 

Atebion o ran darparu gwasanaethau a chymorth mwy effeithiol

1.     Mwy o hyfforddiant

 "Dylai mwy o hyfforddiant fod ar gael i ofalwyr maeth i’w helpu i ddeall y materion sy’n wynebu pobl ifanc - gallai hyn helpu i leihau faint o symud o gwmpas y maent yn gorfod ei wneud."

Codwyd y mater o hyfforddiant gan nifer o gyfranogwyr, a hynny ar gyfer gofalwyr maeth a phobl ifanc eu hunain. Teimlai’r cyfranogwyr bod angen cynnig mwy o hyfforddiant i ofalwyr maeth am y problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, er mwyn gwella dealltwriaeth a pherthynas. Codwyd hyfforddiant i ofalwyr ar drawsrywedd, LGBTQ + a chefndiroedd diwylliannol neu grefyddol gwahanol yn arbennig, yn ogystal â hyfforddiant ar ymdrin â dicter a salwch meddwl.

Awgrymwyd hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc eu hunain hefyd yn y mwyafrif o’r sesiynau. Galwodd un cyfranogwr am "hyfforddiant sgiliau byw yn annibynnol pan fyddwch mewn gofal" ac awgrymodd un arall fod yn “rhaid i gynllun sy’n cynnig sgiliau ar gyfer byw yn y dyfodol fod ar gael yn gynharach".

 

2. Rhagor o adnoddau

 "Nid oes digon o weithwyr cymdeithasol i gwblhau eu llwythi achosion sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r unigolyn. Pan fyddant yn dod o hyd i rywun, mae’r person hwnnw wedyn yn gadael, felly mae’n anodd i’r unigolyn fod yn agored."

Codwyd y nifer fawr o weithwyr cymdeithasol a’r anghysonderau yn y gefnogaeth a gafwyd ganddynt gan fwyafrif y cyfranogwyr. Crybwyllodd un cyfranogwr iddi gael pump o weithwyr gwahanol mewn dwy flynedd, a dywedodd un arall, "rwy’n dyfalu fod gen i gynghorydd personol, ond waeth fy mod heb un hefyd, oherwydd nid yw byth yn dod i gysylltiad â mi, yn ateb y ffôn nac yn ateb negeseuon e-bost."  Priodolwyd y diffyg cysylltiad hwn, gan lawer, i’r rhestr achosion hir a oedd gan weithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol, a phan ofynnwyd iddynt am un peth y byddent yn ei newid er mwyn helpu pobl ifanc mewn gofal. Rhagor o weithwyr cymdeithasol oedd yr ateb a gynigiwyd yn fwyaf aml.

3. Ail gyfleoedd

 "Camgymeriadau! Dim ond un cyfle y byddwch yn ei gael, ac yna fe’ch teflir allan."

Un thema gyffredin drwy’r sesiynau oedd y teimlad nad oeddent yn gallu gwneud camgymeriadau. Soniodd un person ifanc am y nifer o weithiau y cafodd ei symud i leoliadau gwahanol oherwydd camddealltwriaeth neu ymddygiad gwael. “Mae diffyg sefydlogrwydd - mae pobl ifanc angen hyblygrwydd i wrthryfela, a dylid rhoi ail gyfle iddynt." Roedd teimlad cryf hefyd ymhlith pobl sy’n gadael gofal bod angen hyblygrwydd o ran gwneud camgymeriadau, yn enwedig pe bai disgwyl iddynt drosglwyddo i fyw’n annibynnol heb unrhyw gefnogaeth. Rhoddwyd rhywfaint o hyblygrwydd i rai ohonynt wrth ail-dalu Treth y Cyngor, er enghraifft, ond nid oedd asiantaethau biliau cartref eraill â’r un dealltwriaeth, yn arbennig cymdeithasau tai.

4. Rhagor o gefnogaeth ar ôl 18 mlwydd oed

 "Dylai fod mwy o gefnogaeth ar ôl 18 mlwydd oed. Dyma pryd y disgwylir i chi ddod yn fwy annibynnol, felly mae’n bwysig cefnogi’r broses hon."

Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo bod angen rhagor o gefnogaeth ar ôl 18 mlwydd oed. Dywedodd un sydd wedi gadael gofal, pan fyddwch chi’n troi 18 mlwydd oed mae’r "gefnogaeth yn crebachu", a dywedodd un cyfranogwr y cynigiwyd ymweliad bob 6 wythnos iddo gan ei gynghorydd personol ond "gall llawer ddigwydd mewn chwech wythnos". Roedd y cyfranogwyr a oedd wedi gadael y system ofal am gael cysylltiad mwy aml a lefel uwch o gefnogaeth, er enghraifft hyfforddiant a chyngor. Croesawodd y mwyafrif y cynllun ‘Pan fyddaf i’n barod’ sy’n rhoi’r dewis i aros gyda gofalwyr maeth hyd at 21 mlwydd oed. Ni fu hwn, fodd bynnag, yn ddewis a oedd ar gael i lawer o’r cyfranogwyr. Roedd y rhan fwyaf o’r farn bod y gefnogaeth a gynigir gan eu cynghorwyr personol yn well na’r gefnogaeth a gawsant gan eu gweithwyr cymdeithasol, ond bod angen rhagor o gynghorwyr personol er mwyn darparu’r gefnogaeth yr oeddent oll yn teimlo a oedd yn ofynnol ar ôl iddynt adael y system gofal.

 

 

Hoffem ddiolch i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn y sesiynau grŵp ffocws hyn, am rannu eu straeon gyda ni. Diolch hefyd i’r sefydliadau a fu’n gweithio gyda ni i gasglu’r safbwyntiau a’r profiadau hyn:

Cyngor Sir Ynys Môn

Voices from Care

Gweithredu dros Blant

Ffabrig